Yr Hawl i ateb (neu ddatrusiad) effeithiol yw hawl person sydd a'i hawliau dynol wedi eu tramgwyddo i ddatrusiad cyfreithiol. Rhaid i ddatrusiad o'r fath fod yn hygyrch, yn rhwymol, yn gallu dod â'r tramgwyddwyr o flaen eu gwell, darparu iawn priodol, ac atal troseddau pellach.[1][2][3][4] Mae’r hawl i ateb effeithiol yn gwarantu’r gallu i’r unigolyn geisio datrusiad gan y wladwriaeth yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy broses ryngwladol. Mae'n ddull ymarferol o amddiffyn hawliau dynol ar lefel y wladwriaeth ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r wladwriaeth nid yn unig amddiffyn hawliau dynol de jure ond hefyd yn ymarferol ar gyfer achosion unigol.[3][5][6][7] Mae'r hawl i ateb effeithiol yn cael ei gydnabod yn gyffredin fel hawl dynol mewn offerynnau hawliau dynol rhyngwladol.[1][2][8][9]
Mynegir yr hawl i ateb effeithiol yn Erthygl 8 o'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Erthygl 2 o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, Erthygl 13 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac Erthygl 47 o Siarter yr Undeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol Sylfaenol.[8][1][9]
↑Gutman, Kathleen (2019-09-04). "The Essence of the Fundamental Right to an Effective Remedy and to a Fair Trial in the Case-Law of the Court of Justice of the European Union: The Best Is Yet to Come?" (yn en). German Law Journal20 (6): 884–903. doi:10.1017/glj.2019.67. ISSN2071-8322.